
LLIO EVANS
soprano
Daw'r soprano, Llio Evans, yn wreiddiol o bentref bach enwog Ynys Môn, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Y tymor hwn mae Llio yn edrych ymlaen i ganu ei rôl cyntaf gyda Opera Holland Park, Josephine yn HMS Pinafore, sydd yn gynhyrchiad ar y cyd hefo Charles Court Opera. Mi fydd Llio hefyd yn canu rhan Bea ym mhremier y DU o Three Decembers gan Jake Heggie gyda Opera Della Luna.

Llun: Sian Trenberth