LLIO EVANS
soprano
Daw'r soprano, Llio Evans, yn wreiddiol o bentref bach enwog Ynys Môn, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Gyda llais disglair a phresenoldeb llwyfan gwresog, mae Llio yn ei helfen pan yn chwarae rhannau coegenaidd a dirgi. Mae hi'n artist cyngerdd a datganiad brwd ac mae hi hefyd yn mwynhau gweithio gyda chyfansoddwyr ar gerddoriaeth newydd.
Mae rhai o'i uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Celia (Iolanthe) i English National Opera, Zerlina (Don Giovanni) i Longborough Festival Opera, Iris (Semele) i Garsington Opera, Cilla (Waxwings) i English Touring Opera, a The Little One ym mhremier y DU o The Golden Dragon (Eötvös) i Music Theatre Wales.
Llun: Sian Trenberth